Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Canolfan Bwnc Academi Addysg Uwch ar gyfer Dawns, Drama a Cherddoriaeth yw PALATINE (Rhwydwaith Arloesi Dysgu ac Addysgu’r Celfyddydau Perfformio).

Ein swyddogaeth yw darparu ar gyfer ein cymunedau ymarfer mewn addysg uwch ym mhynciau dawns, drama a cherddoriaeth, y gefnogaeth o ansawdd uchel, gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau ar arferion cyffredin dysgu ac addysgu da, llwyddiannus ac arloesol i’n cymunedau ar draws y DU. Rydym hefyd yn hyrwyddo ac yn trosglwyddo ymarferion o’r fath i wella gweithgareddau dysgu ac addysgu yn sector AU y celfyddydau perfformio yn arbennig, ac i’r gymuned addysg uwch ehangach.

water show

Rydym yn trefnu, cynnal ac yn adrodd ar gynadleddau, seminarau a gweithdai sy’n cynnwys pob agwedd o ddysgu, addysgu ac asesu yn y celfyddydau perfformio. Caiff y digwyddiadau hyn eu cynnal gan sefydliadau, adrannau a chydweithwyr ar draws y wlad, fel arfer, yn rhad ac am ddim i gynrychiolwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau blaenorol yn yr archif digwyddiadau.

Rydym yn ariannu prosiectau sy’n gwella neu’n cefnogi dawns, drama a cherddoriaeth mewn addysg uwch, drwy gynllun Gwobrau am Ddatblygu PALATINE. Rhennir canlyniadau’r prosiectau yn helaeth ac yn aml maent yn arwain at ddigwyddiad neu ddatblygu gwaith ymhellach.

Rydym yn gweithio ar themâu allweddol mewn Addysg Uwch, ac Asesu, Cefnogi Staff Academaidd Newydd ac Ymrwymiad y Cyflogwr yn arbennig. Rydym yn ymgymryd â phrosiectau sy’n cael eu hariannu’n allanol mewn cydweithrediad â mudiadau megis JISC, QAA, a.y.b.

music tech image

Rydym yn casglu a darparu adnoddau dysgu ac addysgu ar gyfer dawns, cerddoriaeth, theatr a phynciau perthynol drwy Gyfeiriadur PALATINE. Mae oddeutu 4,000 o adnoddau ar-lein wedi’u hadolygu oddi mewn i Gyfeiriadur PALATINE, mae hefyd yn cynnwys adnoddau ar themâu a materion o bwys sy’n ymwneud â’r celfyddydau perfformio gan gynnwys asesu, hawlfraint, y cwricwlwm, anabledd, e-ddysgu, sgiliau allweddol, cyflogadwyedd, entrepreneuriaeth ac ehangu cyfranogiad.

Rydym yn cefnogi ac yn cynorthwyo i gynnal cyfres o rwydweithiau oddi mewn i’n prif ddisgyblaethau ac ar eu traws.

Mae PALATINE yn rhan o RWYDWAITH PWNC yr ACADEMI ADDYSG UWCH

PALATINE, The Great Hall, Lancaster University, Lancaster LA1 4YW
Ffôn: +44 (0) 1524 592614 (Barbara Hargeaves) | palatine@lancaster.ac.uk