Gwybodaeth am y Gwobrau Datblygu
Mae PALATINE yn croesawu ceisiadau am Wobrau Datblygu ar unrhyw adeg. Mae cyllid o hyd at £7,500 ar gael i brosiectau sy’n gwella neu sy’n cefnogi dysgu ac addysgu mewn addysg uwch, a gellir defnyddio’r cyllid y tu hwnt i adrannau a sefydliadau'r ymgeiswyr eu hunain. (Caiff cyllidebau arfaethedig sydd o dan yr uchafswm o £7,500 eu hannog yn fawr iawn hefyd.) Mae PALATINE yn croesawu cynigion sy’n meithrin dull rhagweithiol o ddysgu ac addysgu amrywiaeth eang o fyfyrwyr yn enwedig. Darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cais, y meini prawf a ddefnyddir gan y canolwyr, a’r telerau ac amodau sy’n gysylltiedig â’r Gwobrau Datblygu.
Caiff y ceisiadau eu hadolygu gan gydweithwyr sy’n arbenigwyr allanol er mwyn sicrhau bod pob prosiect sy’n cael ei ariannu yn cyflwyno gwerth am arian, yn ddefnyddiol ac yn gwneud cyfraniad o ansawdd uchel i’r pwnc.
Er mwyn dysgu am brosiect penodol, gweler, yn y lle cyntaf, y rhestr lawn o Wobrau Datblygu PALATINE. Mae dolen gyswllt rhwng y rhestr â thudalennau unigol sydd wedi eu neilltuo i bob prosiect, gan gynnwys manylion llawn y gwaith ac unrhyw ganlyniadau sydd ar gael. Mae rhestrau ar wahân ar gael hefyd sy’n cynnwys yr holl ganlyniadau clyweledol y Gwobrau Datblygu ac Adroddiadau am y Gwobrau Datblygu.
Rhestr Gwobrau Datblygu PALATINE.
Mae’r tudalennau eraill yn yr adran hon o’n gwefan yn y Saesneg.