Digwyddiadau PALATINE

Mae’r digwyddiadau amrywiol sy’n cael eu cynnal gan PALATINE gyda’n cymunedau ymarfer yn y gymuned, yn rhan ganolog o’n gwaith. Rydym yn cynnal gweithdai, seminarau a chynadleddau ar amrywiaeth eang o bynciau a themâu sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu disgyblaethau dawns, drama a cherddoriaeth sydd o ddiddordeb i’n cydweithwyr ac/neu sy’n ymwneud â nhw.

Gall cydweithwyr sy’n gweithio mewn addysg uwch yn y DU fel arfer fynychu digwyddiadau PALATINE yn rhad ac am ddim, ac mae PALATINE fel arfer yn talu cost y digwyddiadau hyn ar gyfer yr adran neu sefydliadau sy’n ei gynnal.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau PALATINE sydd ar ddod yn adran Digwyddiadau y wefan hon (gweler y ddewislen ar y chwith). Mae’r rhestr yn un sy’n datblygu ac yn un sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i weithdai gael eu cynnig, a’u trafod, a chynnwys/dyddiadau/lleoliadau gael eu cadarnhau. Gellir chwilio am ddigwyddiadau sydd wedi mynd heibio yn yr archif a fydd, yn aml, yn cynnwys adroddiadau, cyflwyniadau, rhestrau o siaradwyr a.y.b.

 Mae’n bwysig i ni eich bod chi hefyd yn gallu cynnig digwyddiad.

 Er mwyn cael gwybodaeth am ein digwyddiadau, neu drafod syniad neu gynnig, cysylltwch â:

 Ralph Brown, Swyddog Prosiectau

 Mae’r tudalennau eraill yn yr adran hon o’n gwefan yn y Saesneg.